top of page

Cludiant

Caiff eitemau sydd mewn stoc eu postio cyn gynted ag y bo modd. Fel arall byddaf yn gwneud yr eitemau yn eich archeb a’u postio o fewn 10 diwrnod gwaith. Os oes angen eitem arnoch ar frys, cysylltwch â mi yn gyntaf a byddaf yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl eich archeb. Gallwch gysylltu trwy e-bostio: hellovickyjones@yahoo.co.uk 

Dychwelyd a Chyfnewid

Mae pob eitem wedi'i wneud â llaw a bydd ganddo'i gymeriad unigol ei hun. Os nad yw’r eitem yr wyf wedi'i anfon atoch yn plesio, gallwch drefnu i ddychwelyd yr eitem a byddaf yn ei gyfnewid am un arall. Ni chaiff y post ei ad-dalu ar yr eitem sydd wedi’i ddychwelyd, a bydd angen i chi dalu am gostau postio'r eitem newydd. Gwnewch yn siŵr fod eich parsel wedi ei bacio a’i selio’n ddiogel, a’ch bod yn cael tystiolaeth o bostio gan na gallaf cymryd cyfrifoldeb am ddychweliadau coll neu rai a ddifrodir yn ystod cludiant. Mae angen trefnu cyfnewidiadau o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn yr eitem.

 

Os yw'r eitem yr wyf wedi'i anfon atoch yn ddiffygiol neu wedi torri, rwy’n hapus i’w gyfnewid neu eich ad-dalu. Cysylltwch er mwyn rhoi gwybod i mi beth yw'r broblem, ac i drefnu i'w ddychwelyd fel y gallaf naill ai drwsio’r eitem, anfon un newydd atoch, neu drefnu ad-daliad. Byddaf yn ad-dalu eich costau postio ar gyfer yr eitemau yma. Gwnewch yn siŵr fod eich parsel wedi ei phacio a’i selio’n saff, a’ch bod yn cael tystiolaeth o bostio gan na allaf gymryd cyfrifoldeb am ddychweliadau sy’n mynd ar goll neu’n cael eu difrodi yn y post. Dylid trefnu dychweliadau o fewn 45 diwrnod ar ôl derbyn eich archeb.

 

Ni ellir ad-dalu eitemau personol na’u cyfnewid oni bai fy mod wedi gwneud camgymeriad sillafu neu fod yr eitem yn ddiffygiol. Gwiriwch eich archeb yn ofalus os ydych chi'n archebu eitem bersonol.

bottom of page