Polisi Preifatrwydd
Dim ond ar gyfer trafodion masnachol yn unig rwyf yn defnyddio eich data personol. Caiff y data hwn ei drin gyda gofal ac ni chaiff ei ddefnyddio mewn ffyrdd nad ydych chi wedi cydsynio â nhw. Nid wyf yn danfon e-byst marchnata, na chasglu data i werthu, dosbarthu neu brydlesu i drydydd parti. Fel arfer, yr unig ddata yr wyf yn ei chasglu yw’r isafswm sydd ei angen i brosesu eich archeb neu ad-daliadau sef: eich enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, ac weithiau rhif ffôn.
Er mwyn prosesu eich taliad am nwyddau o'r wefan hon, bydd Stripe neu Paypal yn derbyn eich manylion talu. Bydd angen i chi darllen eu polisïau preifatrwydd unigol i sicrhau eich bod yn hapus â nhw cyn defnyddio eu gwasanaethau i dalu am eitemau, gan y gallent ddefnyddio'ch data yn wahanol. Mae hefyd yn bwysig nodi bod y wefan hon yn cael ei chynnal gan WIX ac maent yn casglu rhywfaint o wybodaeth am ymwelwyr trwy gyfrwng cwcis. Gallwch ddarllen mwy am eu polisi yma.
Mae croeso i chi i weld, diwygio neu ddileu'r wybodaeth bersonol sydd gennyf ar unrhyw adeg.